Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Gwneud cwyn am yrrwr tacsi

Os yw gyrrwr cerbyd hacni wedi gwrthod mynd â chi oherwydd ei bod yn daith rhy fer, neu os nad yw'r gyrrwr neu'r cerbyd (cerbyd hacni neu hurio preifat) yn bodloni eich disgwyliadau, gallwch roi gwybod am hynny i Is-adran Trwyddedu Cyngor Caerdydd.

I roi cymaint o wybodaeth â phosibl i ni:

  • gwnewch nodyn / tynnwch lun o'r rhif gyrrwr,
  • rhif cofrestru'r cerbyd,
  • rhif plât y drwydded,
  • y dyddiad, yr amser a'r lle y digwyddodd y digwyddiad.

Gallwch adrodd y broblem i [email protected] neu 0300 123 6696.

Rhowch wybod am y digwyddiadau hyn cyn gynted â phosibl.