Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Cerbydau llogi preifat

Cerbyd llogi preifat:

  • Dim modd ei alw o fin y ffordd, a
  • mae'n rhaid ei archebu ymlaen llaw drwy gwmni llogi preifat trwyddedig.

Mae cerbydau llogi preifat a drwyddedir gan Gaerdydd un ai o fath salŵn neu'n gerbyd cludo criw (ag eithrio rhai duon â chwfl gwyn). Dylai fod gan y cerbydau hyn blât melyn ar y cefn sy'n cynnwys y rhif trwydded.

Prisiau

Cwmnïau unigol sy'n gosod prisiau llogi preifat. Does dim rhaid iddyn nhw ddefnyddio mesurydd na'r rhestr brisiau a osodir gan y Cyngor. Gall cwsmeriaid drafod pris.

Noder: Gall cwmnïau llogi preifat wrthod derbyn archeb.

Os nad yw'r gyrrwr neu'r cerbyd yn bodloni eich disgwyliadau, gallwch adrodd wrth Is-adran Trwyddedu Cyngor Caerdydd.