Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Eich cyfrifoldeb cyfreithiol

Yn ôl y gyfraith, rhaid i bob plentyn oed ysgol gorfodol (5 i 16) gael addysg lawn-amser addas. Fel rhiant, mae gennych gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau bod hyn yn digwydd - naill ai drwy gofrestru eich plentyn mewn ysgol neu drwy wneud trefniadau eraill i sicrhau ei fod yn cael addysg lawn-amser addas.

Unwaith y bydd eich plentyn wedi'i gofrestru mewn ysgol, mae cyfrifoldeb cyfreithiol arnoch i sicrhau ei fod yn bresennol yno'n rheolaidd.

Os na fydd eich plentyn yn bresennol yn rheolaidd, bydd yr ysgol neu'r awdurdod lleol yn cysylltu â chi. Mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i gymryd camau os byddant o'r farn nad yw plentyn yn cael yr addysg sydd ei hangen yn ôl y gyfraith, naill ai gartref neu yn yr ysgol. Os bydd eich plentyn yn colli diwrnodau ysgol, efallai bydd aelod o'r Gwasanaeth Lles Addysg yn ymweld â chi. Bydd yn siarad â chi am broblemau presenoldeb eich plentyn.

Beth yw fy nghyfrifoldeb cyfreithiol fel rhiant a beth yw'r canlyniadau?

  • Fel rhiant, mae gennych gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau bod eich plentyn yn cael addysg lawn-amser rhwng pump oed ac 16 oed.
  • Os na fyddwch yn anfon eich plentyn i'r ysgol yn rheolaidd, gallech gael dirwy o hyd at £2500 a hyd yn oed gael eich carcharu.

 

A oes unrhyw eithriadau?

Weithiau, ni fydd eich plentyn yn gallu mynd i'r ysgol, gelwir hyn yn 'Absenoldeb Awdurdodedig', a rhaid rhoi gwybod i'r ysgol ymlaen llaw. Gall yr ysgol awdurdodi absenoldeb o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Mae eich plentyn yn rhy sâl i fynd i'r ysgol
  • Mae gan eich plentyn apwyntiad gyda'r deintydd neu'r meddyg
  • Mae perthynas wedi marw
  • Rhesymau crefyddol penodol

 

Beth am fynd ar wyliau neu drip undydd?

Rydym bellach wedi gofyn i benaethiaid beidio ag awdurdodi ceisiadau am wyliau yn ystod y tymor. Nid oes gan rieni na gofalwyr unrhyw hawl i fynd â phlentyn allan o'r ysgol ar gyfer gwyliau yn ystod y tymor.

*O ran cymryd gwyliau yn ystod y tymor, mae'r Penaethiaid yn cadw'r hawl i awdurdodi gwyliau ac mae modd iddynt asesu amgylchiadau unigol ac eithriadol.

I roi hyn yn ei gyd-destun, mae'r ysgol ar agor am 190 diwrnod y flwyddyn, sy'n gadael 175 diwrnod yn rhydd i fynd ar wyliau ac ymweld â theuluoedd.

Mae polisi blaenorol Cyngor Caerdydd ar Wyliau Estynedig bellach wedi'i dynnu yn ôl ac rydym yn gofyn i deuluoedd wneud trefniadau i gymryd gwyliau estynedig yn ystod y chwe wythnos o wyliau ym mis Gorffennaf a mis Awst er mwyn helpu ysgolion i gefnogi eich plentyn i lwyddo.

Nid yw'n dderbyniol ac nid oes gennych awdurdod i gymryd eich plentyn allan o'r ysgol am y rhesymau canlynol:

  • Gofalu am frodyr a chwiorydd
  • Teithiau siopa
  • Diwrnodau i ffwrdd i ddathlu pen-blwydd
  • Ymweld â pherthnasoedd
  • Cysgu'n hwyr
  • Cyrraedd yr ysgol yn hwyr
  • Gofalu am y tŷ
  • Mynd ar dripiau undydd neu wyliau

 

Gweler hefyd