Mae'r holl gynghorwyr yng Nghyngor Caerdydd yn atebol i God Ymddygiad Aelodau.
Os ydych chi'n credu bod Cynghorydd wedi torri'r Cod hwn, gallwch gyflwyno cwyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
CF35 5LJ
Ffôn: 0300 790 0203
Gwneud cwyn.
Mae gwefan yr Ombwdsmon yn esbonio'r safonau ymddygiad a ddisgwylir yn ôl y Cod a sut mae'r Ombwdsmon yn penderfynu p'un a ddylid ymchwilio i gŵyn ai peidio. Bydd yr Ombwdsmon fel arfer ond yn ymchwilio pan fo tystiolaeth bod Cynghorydd wedi cyflawni tramgwydd difrifol.
Protocol Datrys Lleol
Mae'r Cyngor hefyd wedi mabwysiadu Protocol Datrysiad Lleol, yn unol ag argymhellion yr Ombwdsmon, i ymdrin â chwynion cymharol 'isel' a wnaed gan Aelod neu Swyddog arall o Gyngor Caerdydd.
Fel arfer bydd y cwynion hyn yn ymwneud â methiannau honedig i ddangos parch tuag at eraill ac ystyriaeth ohonynt fel sy'n ofynnol gan baragraff 4 (b) o God Ymddygiad yr Aelodau.
Gallai cwynion lefel isel a wneir gan Aelodau'r cyhoedd am achos honedig o dorri'r cod ymddygiad gan gynghorydd gael eu trin hefyd dan y protocol datrysiad lleol os bydd y swyddog monitro yn cytuno bod hyn yn briodol.
Os ydych yn ansicr a yw mater yr ydych yn dymuno cwyno amdano yn 'lefel isel' neu o fewn cylch gwaith y Protocol Datrys Lleol, efallai y byddwch am gysylltu â'r Swyddog Monitro (a all ymgynghori â swyddfa'r Ombwdsmon).
Gallwch gysylltu â'r Swyddog Monitro drwy e-bostio: [email protected]
