Rydym yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i roi gwybod i breswylwyr am newyddion, ymgynghoriadau, digwyddiadau a gwasanaethau'r Cyngor. Rydym yn ailbostio cyfrifon sy'n rhannu gwybodaeth ddefnyddiol i breswylwyr Caerdydd.
Dilynwch ni ar X
x.com/cyngorcaerdydd
Hoffwch ni ar Facebook
facebook.com/cyngorcaerdydd
Rydym hefyd ar YouTube a Instagram.
Oes angen i chi gysylltu â ni?
Os oes gennych gwestiwn neu os oes angen i chi roi gwybod i ni am rywbeth, defnyddiwch ein cyfrifon gwasanaethau cwsmeriaid.
Dilynwch ni ar X
x.com/Help_C2C
Hoffwch ni ar Facebook
facebook.com/C2CHelp
Dilynwch ni ar Instagram
instagram.com/c2c_help/
Am beth fyddwn yn Trydar?
Rydym am roi'r newyddion diweddaraf am y cyngor a'r gymuned i'n dilynwyr. Os dilynwch ni gallwch ddisgwyl:
- Cyhoeddiadau - megis traffig a theithio, digwyddiadau, gwybodaeth am newidiadau i wasanaethau'r cyngor neu am wasanaethau newydd.
- Gwahoddiadau i gael dweud eich dweud mewn ymgynghoriadau.
- Dolenni i gynnwys newydd a gyhoeddwyd ar ein gwefan www.caerdydd.gov.uk
- Dolenni i gynnwys newydd a gyhoeddwyd ar ein gwefan www.newyddioncaerdydd.co.uk
- Dolenni i gynnwys newydd a osodwyd ar lwyfannau digidol eraill, megis YouTube, Facebook and Instagram.
- Negeseuon ymgyrchoedd marchnata.
- Gwybodaeth am flaenoriaethau Arweinydd y Cyngor ac Aelodau Cabinet.
- Darllediadau byw o Gyfarfodydd llawn y Cyngor a'r Pwyllgor Cynllunio.
- Darllediadau byw achlysurol o ddigwyddiadau.
Sut y byddwn yn rheoli negeseuon trydar a dderbyniwn @cyngorcaerdydd
Anelwn i ymateb i gymaint o atebion, sylwadau a cheisiadau ag y gallwn yn ystod oriau swyddfa.
Weithiau bydd ein tîm monitro yn anfon eich cwestiwn i wasanaethau cwsmeriaid neu dimoedd eraill i ddod o hyd i'r wybodaeth yna i chi.
Golyga hynny y gall gymryd peth amser cyn y gallwn ddod nôl atoch chi. Byddwn yn dweud wrthych pan fyddwn yn gwneud hyn ac o dro i dro byddwn yn eich e-bostio neu anfon neges uniongyrchol atoch yn hytrach na'ch ateb ar eich ffrwd X.
Os dilynwch ni ar X, efallai y byddwn yn eich dilyn yn ôl. Nid yw'r ffaith ein bod yn eich dilyn yn awgrymu cymeradwyaeth o unrhyw fath. Os yw eich ymholiad yn un brys, difrifol neu'n cynnwys manylion personol ffoniwch 029 2087 2088.
Adrodd am faterion i ni
Mae nifer o sianelau gennym i gysylltu â ni er mwyn sôn am faterion. Dysgwch fwy yn ein hadran Cysylltu â ni.
Os adroddwch fater i ni ar X a'ch bod wedi rhoi digon o wybodaeth er mwyn i ni weithredu, byddwn yn adrodd arno ar eich rhan. Os bydd angen mwy o wybodaeth arnom gennych, efallai y byddwn yn eich cyfeirio at un o'n ffurflenni ar-lein.
Ein hargaeledd
Byddwn yn diweddaru ac yn monitro ein cyfrifon yn ystod oriau swyddfa, Dydd Llun i Ddydd Gwener. O dro i dro efallai na fydd X ar gael ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddiffyg gwasanaeth yn ystod cyfnodau pan nad yw X ar gael.
