Mae Canolfan Ymchwilio Caerdydd (CRC) yn ymdrechu i ddarparu gwasanaethau ymchwil, gwybodaeth ac ymgynghori cadarn ar gyfer Cyngor Dinas Caerdydd a'i sefydliadau partner.
Mae'n gwasanaethau'n cynnwys:
- Dadansoddi a dehongli amrywiaeth eang o ddata demograffig ac economaidd-gymdeithasol gan gynnwys y Cyfrifiad a'r holl ffynonellau eraill o'r amgylchedd data ehangach er mwyn darparu sail tystiolaeth ar gyfer gweithredu polisïau a newid;
- Casglu, dadansoddi a dehongli prif ddata arolygon;
- Astudiaethau arbenigol ar amrywiaeth eang o bynciau gan gynnwys ffynonellau data cymdeithasol, economaidd a demograffig ar gyfer gweithredu polisïau a newid;
- Projectau ymchwil ac ymgynghori meintiol ac ansoddol;
- Rheoli Panel Dinasyddion Caerdydd;
- Cyfleusterau Grŵp Ffocws;
- Cyngor a chefnogaeth ar bob agwedd ar ymchwil gan gynnwys dylunio gwasanaethau mapio thematig a sgematig GIS.
I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau ymchwil, gwybodaeth ac ymgynghori, cysylltwch â:
Hefyd, gallwch chi gael mynediad at yr Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd, ein Strategaeth ymgysylltu, Adroddiadau Ymchwil ar ymarferion ymgynghori blaenorol neu gael rhagor o wybodaeth am ein Panel dinasyddion Caerdydd.
Er mwyn cael y newyddion diweddaraf am ddatblygiadau a manylion am ddigwyddiadau i ddod, cliciwch 'Hoffi' ar ein tudalen Facebook Sgwrs Caerdydd.
