Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Arena Bae Caerdydd, Glanfa'r Iwerydd, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF10 4UW

Deddf Trwyddedu 2003 - Hysbysiad Cyhoeddus o Gais

Cais am Drwydded Safle (dan Adran 17)

Live Nation (Music) UK Limited 

Enw a chyfeiriad post y safle

Arena Bae Caerdydd
Glanfa'r Iwerydd
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF10 4UW

Datganiad o'r gweithgareddau trwyddedadwy perthnasol y cynigir eu gwneud ar y safle neu o'r safle, ynghyd â'r amserau perthnasol

1. Gwerthu alcohol i'w yfed ar ac oddi ar y safle:

  • Dydd Llun i Ddydd Sul: 09:00 i 02:00
  • Nos Galan: 09:00 tan ddechrau'r oriau a ganiateir y diwrnod wedyn

2. Darparu adloniant wedi'i reoleiddio ar ffurf dramâu, ffilmiau, chwaraeon dan do, adloniant bocsio a reslo, cerddoriaeth fyw, cerddoriaeth wedi'i recordio, perfformiadau dawns ac adloniant tebyg (dan do):

  • Dydd Llun i Ddydd Sul: 09:00 i 02:00
  • Nos Galan: 09:00 tan ddechrau'r oriau a ganiateir y diwrnod wedyn

3. Darparu lluniaeth gyda'r hwyrnos (dan do ac yn yr awyr agored):

  • Dydd Llun i ddydd Sul: 23:00 i 02:00
  • Nos Galan: 09:00 tan 05:00

Gellir archwilio'r Gofrestr Drwyddedu yn yr Adran Drwyddedu, Cyngor Caerdydd, Neuadd y Sir, Caerdydd CF10 4UW, rhwng 9am a 4pm (o ddydd Llun i ddydd Gwener ac eithrio yn ystod gwyliau cyhoeddus).

Rhaid i unrhyw sylwadau gael eu cyflwyno'n ysgrifenedig i'r cyfeiriad uchod neu mewn e-bost i [email protected] erbyn 13 Gorffennaf 2026.

Mae'n drosedd gwneud datganiad anwir ynglŷn â chais, yn fwriadol neu'n ddi-hid, a gall hyn arwain at gollfarn ddiannod â dirwy heb gyfyngiad.