Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Rheoli eich biliau ynni

Os ydych yn ei chael hi'n anodd darllen neu ddeall eich biliau ynni, mae gan National Energy Action (NEA) daflenni a all ddangos i chi:

Newid cyflenwr

Gallech leihau eich biliau ynni drwy newid eich tariff neu gyflenwr. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am newid cyflenwr ynni ar wefan Ofgem.

Nid oes angen i chi fod yn berchen ar eich cartref i newid cyflenwr.

Mesuryddion rhagdalu

Gallech ei chael hi'n haws rheoli eich biliau ynni trwy ofyn i'ch cyflenwr osod mesurydd rhagdalu. Mae mesurydd rhagdalu yn gadael i chi dalu wrth i chi fynd am yr ynni rydych chi'n ei ddefnyddio. Ni chodir mwy na chwsmeriaid sydd yn talu biliau yn uniongyrchol.

Yn ddiweddar, mae cod ymarfer wedi'i ddiweddaru wedi'i gyflwyno gan Ofgem, i esbonio'r rheolau newydd y mae'n rhaid i gyflenwyr eu dilyn cyn gosod mesuryddion rhagdalu mewn cartrefi.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am fesuryddion rhagdalu ar wefan Ofgem.

Help gyda biliau ynni

Os ydych yn ei chael hi'n anodd talu eich biliau nwy a thrydan, cysylltwch â'ch cyflenwr. Efallai y gallan nhw helpu gydag:

  • adolygiad llawn o'r cynllun talu,
  • cynlluniau ad-dalu dyledion fforddiadwy,
  • egwyl talu,
  • gostyngiadau mewn taliadau,
  • mwy o amser i dalu, neu
  • fynediad at gronfeydd caledi.

Gallwch chi ddod o hyd i gymorth os ydych yn cael trafferth oherwydd costau byw cynyddol.

Mesuryddion clyfar

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael Mesurydd Clyfar, gallwch gael rhagor o wybodaeth ar y wefan Mesuryddion Clyfar.