Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Sut i dalu eich hysbysiad o gosb

Gallwch dalu eich HTC ar-lein gyda'ch cerdyn debyd neu gredyd, gan ddefnyddio ein system talu ar-lein ddiogel.

Talu ar-lein

Beth sydd angen i chi ei dalu ar-lein

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • rhif yr HTC sy'n dechrau gyda QC, a
  • rhif cofrestru eich cerbyd.

Peidiwch â thalu os ydych eisiau herio'r HTC. Rydym yn ystyried taliad yn gydnabyddiaeth o atebolrwydd ac os byddwch yn talu, efallai na fyddwn yn ystyried eich llythyr herio. Ni fydd y ddirwy yn cynyddu wrth i ni adolygu eich llythyr herio.

Ffyrdd eraill o dalu

  • Gallwch hefyd ein ffonio ar 029 2044 5900. Mae'r llinellau yn awtomataidd ac ar agor 7 diwrnod yr wythnos. Taliadau cerdyn credyd neu ddebyd yn unig.

  • Gallwch anfon siec neu archeb bost atom drwy'r post. Dylid gwneud sieciau neu archebion post yn daladwy i "Cyngor Caerdydd" a nodi rhif yr HTC perthnasol ar y cefn. Ni dderbynnir sieciau ôl-ddyddiedig. Gallwch ddod o hyd i gyfeiriad post y Gwasanaethau Parcio ar eich HTC.

    Os na fyddwch yn talu'r costau post cywir, efallai na fydd eich post yn cael ei ddosbarthu. Gallai hyn olygu na fyddwn yn derbyn eich taliad neu ohebiaeth o fewn yr amser angenrheidiol. Rhowch 2 ddiwrnod gwaith i bost dosbarth cyntaf a 5 diwrnod gwaith i bost ail ddosbarth gyrraedd.

Nid ydym yn derbyn taliadau arian parod. Os byddwch yn anfon arian parod, ni fyddwn yn derbyn atebolrwydd os caiff ei golli yn y post.

Beth sy'n digwydd i unrhyw incwm sy'n cael ei gasglu drwy gamau gorfodi?

Gellir ond defnyddio arian a godir drwy orfodaeth i wella:

  • priffyrdd a ffyrdd,
  • yr amgylchedd, a
  • gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.