Os ydych wedi derbyn Hysbysiad i Berchennog, gallwch apelio'n ffurfiol trwy gyflwyno sylwadau o fewn 28 diwrnod. Os byddwn yn derbyn eich apêl ffurfiol (sylwadau) ar ôl 28 diwrnod, efallai na fyddwn yn ei hystyried.
Peidiwch â thalu os ydych eisiau herio'r HTC. Rydym yn ystyried taliad yn gydnabyddiaeth o atebolrwydd ac os byddwch yn talu, efallai na fyddwn yn ystyried eich llythyr herio. Ni fydd y ddirwy yn cynyddu wrth i ni ystyried eich apêl.
Unwaith y byddwn wedi derbyn eich apêl, byddwn yn anfon llythyr cydnabyddiaeth atoch. Byddwn yn gohirio'r achos tra bo swyddog achos yn ystyried eich apêl. Byddwn fel arfer yn anfon y penderfyniad hwn atoch o fewn 56 diwrnod.
Er mwyn apelio'n ffurfiol yn erbyn dirwy parcio, bydd angen eich cod gwe arnoch. Mae hyn yn 8 digid o hyd ac mae'n cynnwys rhifau a llythrennau. Er enghraifft: 111XX111. Gallwch ddod o hyd i hyn ar gefn tudalen gyntaf eich Hysbysiad i Berchennog.
Galla apelio yn erbyn Hysbysiad i Berchennog ar-lein neu yn ysgrifenedig. Gallwch ddod o hyd i gyfeiriad post y Gwasanaethau Parcio ar eich Hysbysiad i Berchennog.
Mae perchennog neu huriwr y cerbyd yn atebol hyd yn oed os nad oedd yn gyrru adeg y tramgwydd.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys eich:
cyfeiriad dychwelyd,
Rhif HTC,
rhif cofrestru'r cerbyd, ac
unrhyw dystiolaeth a allai gefnogi'ch achos yn eich barn chi.
Ni allwn ddatrys problemau dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.
Rhaid i'ch sylwadau fod yn rai gwir hyd eithaf eich gwybodaeth. Mae'n drosedd gwneud sylwadau anwir a gallwch chi gael eich erlyn os gwnewch chi hynny.
Caiff unrhyw wybodaeth a roddir ei phrosesu yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Gall yr awdurdod neu gyrff perthnasol eraill ddefnyddio'r wybodaeth a ddarperir gennych at ddibenion gorfodi, canfod twyll neu unrhyw ddibenion cysylltiedig eraill fel y caniateir gan y gyfraith.
Os byddwn yn gwrthod eich apêl ffurfiol
Bydd llythyr penderfyniad yn cael ei anfon atoch drwy'r post o fewn 56 diwrnod o gael eich sylwadau. Os gwnaethoch gynnwys cyfeiriad e-bost pan wnaethoch apelio, byddwch hefyd yn cael copi drwy e-bost.
Os byddwn yn gwrthod yr apêl ffurfiol a anfonwyd gennych ar ôl i chi dderbyn Hysbysiad i Berchennog, gallwch drefnu i'r mater gael ei ystyried gan ddyfarnwr annibynnol o'r Gwasanaeth Tribiwnlys Traffig.
Bydd yr Hysbysiad Gwrthod a anfonwn atoch yn cynnwys:
cyfarwyddiadau am sut i apelio i'r Tribiwnlys, a
chod apêl unigryw.
Mae'r dyfarnwr yn gwbl annibynnol arnom. Mae ei benderfyniad yn derfynol ac yn gyfreithiol rwymol arnom ni a'r sawl sydd wedi apelio.
Beth i'w wneud os na allwch ddod o hyd i'ch cod dirwy neu we
Cewch wybod am Sut i apelio'n ffurfiol ar ôl Hysbysiad i Berchennog.
