Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai Caerdydd

​​​Mae Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai Caerdydd 2022 i 2026 yn nodi'r cyfeiriad strategol ar gyfer atal digartrefedd a gwasanaethau cymorth sy'n gysylltiedig â thai yng Nghaerdydd am y pedair blynedd nesaf.   

Mae'r Strategaeth yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes yn digwydd i atal a mynd i'r afael â digartrefedd a bydd yn atgyfnerthu'r addewid "Dim Mynd yn Ôl" a wnaed yn dilyn y pandemig.  

Rydym am sicrhau bod digartrefedd yn brin, yn fyr ac nad yw'n cael ei ailadrodd. 

Prif nodau'r Strategaeth yw:

  • Atal digartrefedd lle bynnag y bo modd
  • Sicrhau bod pawb yn cael y cymorth a'r gefnogaeth gywir 
  • Mabwysiadu ymagwedd ailgartrefu gyflym tuag at ddigartrefedd
  • Darparu llety â chymorth o ansawdd da i'r rhai sydd ei angen. 

Mae'r wybodaeth a geir yn y dogfennau hyn wedi'u dylunio i'w hargraffu. Mae'n bosib na fydd modd gweld popeth ar-lein.​​

​​​​​Cymerwch olwg ar y Strategaeth rhaglen cymorth tai Caerdydd 2022 i 2026 (PDF, 4 MB)