Mae'r Strategaeth Buddsoddi Addysg yn cyflwyno gweledigaeth, nodau strategol a gwerthoedd cyffredinol ar gyfer system addysg Caerdydd. Bydd hyn yn llywio ein gwasanaeth dros y 9 mlynedd nesaf.
Mae'r strategaeth yn nodi nodau hirdymor sy'n ymwneud â chefnogi system addysg Caerdydd. Mae'n cyd-fynd â'r canlynol:
- y genhadaeth genedlaethol,
- ein blaenoriaethau penodol o ran gwella a buddsoddi mewn addysg yng Nghaerdydd, ac
- ein gweledigaeth i fod yn uchelgeisiol, yn deg ac yn gynaliadwy.
Rydym wedi ymrwymo i:
- Godi dyheadau a disgwyliadau ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghaerdydd
- Gwella canlyniadau addysgol i'n dysgwyr, gan sicrhau'r gwerth gorau i'n dinas
- Cefnogi cyfle cyfartal, gan hyrwyddo a dathlu llwyddiant a chyfleoedd bywyd pob plentyn a pherson ifanc
- Parchu hawliau pob plentyn a pherson ifanc trwy wrando ar eu barn a'u cynnwys yn weithredol a gwrando arnynt ym mhopeth a wnawn
- Galluogi cydweithio rhwng adrannau a phartneriaid i rannu gwybodaeth, ymarfer a dysgu
- Hyrwyddo ein treftadaeth a'n diwylliant Cymreig a defnyddio'r Gymraeg yn llawer ehangach
- Blaenoriaethu buddsoddiad sy'n gwneud defnydd da o adnoddau ariannol cyfyngedig i sicrhau'r effaith addysgol fwyaf posibl
- Parchu a diogelu ein hamgylchedd naturiol ar gyfer y plant a'r bobl ifanc nawr ac i'r dyfodol.
Mae'r strategaeth yn gweithio ochr yn ochr â'n Strategaeth Gydweithredu a Ffedereiddio, sy'n amlinellu:
- Sut rydym yn bwriadu cyflawni ein nodau yng Nghaerdydd 2030 trwy gydweithio â phartneriaid a ffederasiynau.
- Pwysigrwydd buddsoddi a threfniadaeth effeithiol yn system addysg Caerdydd.
Gweler Strategaeth Buddsoddi Addysg 2024 tan 2033 (PDF, 2 MB).
Gweler Strategaeth Gydweithredu a Ffedereiddio 2024 tan 2033 (PDF, 1 MB).
