Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Ynglŷn â'r rhaglen fuddsoddi

Mae Rhaglen Fuddsoddi Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn flaenorol) yn gydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol.

Mae'n rhaglen fuddsoddi gyfalaf fawr, hirdymor a strategol gyda'r nod o greu cenhedlaeth o gyfleusterau dysgu di-garbon rhagorol sy'n ganolog i'w cymunedau ledled Cymru.

Trwy fuddsoddiad addysg presennol Caerdydd, mewn partneriaeth â Rhaglen Cymunedau Dysgu Llywodraeth Cymru, mae'r Cyngor wedi buddsoddi dros £460m yn yr ystâd Ysgolion.

Mae'r datblygiad hwn wedi bod yn bosibl drwy sicrhau, cyfuno a blaenoriaethu cyllid o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys:

  • Rhaglen Fuddsoddi Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru a Grantiau Cyfalaf eraill Llywodraeth Cymru,
  • cyllid o raglen gyfalaf y Cyngor,
  • cyllid Salix ar gyfer cynlluniau lleihau carbon, a
  • chyfraniadau Cynllun Datblygu Lleol i ddatblygu lleoedd ysgolion i wasanaethu cymunedau preswyl Newydd.