Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Newid go iawn i bobl ddigartref

Mae'r Cyngor a'i bartneriaid yn annog y cyhoedd i helpu i sicrhau newid go iawn a pharhaol i'r bobl sy'n agored i niwed a welant ar y stryd.

Mae'r ymgyrch 'Real Change' yn gofyn i bobl beidio â rhoi eu newid sbâr i'r rhai sy'n cardota, ond yn hytrach cyfeirio pobl sy'n agored i niwed at y gwasanaethau a all weddnewid eu bywydau.

Anogir unrhyw un sy'n pryderu am unigolyn y dônt ar ei draws ar y strydoedd i alw am gymorth.

Yna, bydd tîm allgymorth digartref y ddinas yn cael ei anfon i weld yr unigolyn dan sylw i'w annog i adael y strydoedd.

Tecstiwch 'REALCHANGE' i 80800 gan nodi lleoliad y person hwnnw neu defnyddiwch y ffurflen ar-lein.

Dywedwch wrthym am berson digartref

Darllenwch Polisi Preifatrwydd ar gyfer yr ymgyrch neges destun Newid Go Iawn.