Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Sut i helpu

Gallwch helpu pobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghaerdydd drwy gefnogi cynlluniau drwy gynnig cymorth ymarferol ac arbenigol i bobl yn y ddinas.

Gallwch wneud hyn drwy gyfrannu a wirfoddoli.

Gwirfoddoli - Gwasanaeth Teithwyr Sipsiwn, Tai ac Allgymorth

Gall gwirfoddoli wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.

Ein nod yw eich helpu i ddod o hyd i'ch cyfle gwirfoddoli delfrydol a gwireddu eich potensial.

Rydym ni'n awyddus i wirfoddolwyr ymuno â phob un o'r gwasanaethau canlynol:

  • Tŷ Greenfarm (Hostel Teuluol)
  • Tŷ Tresillian (Hostel Person Unigol)
  • Gwasanaethau Teithwyr Sipsiwn
  • Adams Court (llety dros dro i deuluoedd/pobl unigol)
  • Y Gwasanaeth Allgymorth

Ar ôl cynefino byddwch yn cael trafodaeth am ba wasanaeth a fyddai fwyaf addas ar eich cyfer chi gyda'r Cydlynydd Gwirfoddolwyr.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â'n gwasanaeth fel gwirfoddolwr, cysylltwch â ni drwy e-bostio [email protected] neu ffonio 029 2087 3141.

 

Byddin yr Iachawdwriaeth - Project Bws

Mae'r Project Bws yn darparu gwasanaethau bum diwrnod o'r wythnos, 52 wythnos y flwyddyn, mewn bws deulawr sydd wedi'i addasu'n bwrpasol.

Gyda swyddfa ac ystafell feddygol, mae modd i bobl sy'n cysgu ar y stryd gael gafael ar wasanaethau gofal a chymorth brys. Mae'r gwasanaeth hefyd yn cynnig bwyd a diodydd poeth, ac yn gweithredu fel cysgod i bobl pan fo tywydd garw.

Dysgwch sut gallwch chi gefnogi gwaith Byddin yr Iachawdwriaeth. 

Tîm Ymyriadau Cysgu ar y Stryd The Wallich

Mae'r tîm yn cynnig cymorth, cefnogaeth a chyngor i bobl sy'n cysgu ar y stryd neu sy'n byw mewn cartref sy'n eu gwneud yn agored i niwed yng Nghaerdydd. Mae staff profiadol yn cefnogi cleientiaid drwy gynnig y cymorth canlynol:

  • brecwast,
  • diodydd poeth,
  • sachau cysgu,
  • dillad cynnes,
  • deunyddiau ymolchi, a
  • helpu i ddod o hyd i ddarpariaeth leol bellach drwy gydol y dydd a nos.

Mae'r Tîm hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o gyngor ac yn galluogi pobl i gael gafael ar y gwasanaethau mwyaf priodol, perthnasol ac arbenigol gan gynnwys cyngor ar dai, atgyfeiriadau i lety â chymorth, cyngor ar fudd-daliadau, atgyfeiriadau i bob math o ofal iechyd ac atgyfeiriadau i ganolfannau camddefnyddio sylweddau.

Dysgwch sut gallwch chi gefnogi Tîm The Wallich

Huggard - Canolfan Ddydd Huggard

Mae'r ganolfan hon yng nghanol y ddinas ar agor bob dydd o'r flwyddyn yn cynnig cymorth, cyngor a datblygiad arbenigol.

Mae Huggard yn cynnig:

  • prydau am ddim a chost isel,
  • dillad am ddim,
  • cyfleusterau golchi dillad, a
  • hylendid personol.

Mae'r ganolfan yn bodoli i roi cymorth hanfodol i bobl ddigartref ac yn rhoi'r cyfle i ymgysylltu â nhw mewn amgylchedd cyfeillgar a chynnes, er mwyn eu helpu i ddod o hyd i lety parhaol.

Dysgwch fwy am wasanaethau Huggard a sut y gallwch chi helpu. 

CAERedigrwydd

Ymgyrch codi arian yw CAERedigrwydd sy'n cyfuno elusennau digartrefedd sydd eisoes wedi'u sefydlu ledled Caerdydd. Mae'n cynnig cronfa amgen i helpu'r elusennau digartrefedd dan sylw i gefnogi'r bobl y maen nhw'n gweithio gyda nhw drwy grantiau bach.

Gallwch gyfrannu unrhyw adeg o'r dydd neu nos drwy decstio DIFF20 ac yna'r swm yr ydych am ei gyfrannu i 70070.

Mae'n bosib y codir tâl arnoch am eich neges. Cyfeiriwch at gyfraddau safonol gweithredwr eich rhwydwaith.

Caiff eich cyfraniad ei roi i unigolion i gynnig y gefnogaeth briodol ar yr adeg briodol.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan FOR Cardiff