Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Gwasanaeth synhwyrau

Rydym yn cynnig cymorth, gwybodaeth a chyngor i oedolion sydd wedi colli eu golwg a'u clyw yn sylweddol.

Ar ôl cael eu hardystio gan ymgynghorydd, gallwn gofrestru pobl yn bobl sydd â nam ar y golwg neu'r clyw, naill ai'n rhannol neu'n ddifrifol.

Yn dilyn asesiad arbenigol o'ch anghenion, gallem gynnig:

  • Hyfforddiant ac offer i hybu eich diogelwch a'ch annibyniaeth
  • Cyfeiriad at asiantaethau neu weithwyr proffesiynol eraill am wybodaeth, cyngor a gwasanaethau
  • Cymorth gofal yn eich cartref eich hun ac i'ch helpu i ddefnyddio cyfleusterau cymunedol
  • Cymorth a chyngor ar gyfer pobl ifanc 18-25 wrth iddynt symud o'r ysgol i addysg bellach a byd gwaith.

Rydym yn cynnig offer i bobl â theclyn clyw sy'n gweithio ar ôl iddynt gael eu hasesu gan glywedegwr yn unig, ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig.

Gwasanaethau ar gyfer Pobl Fyddar sy'n defnyddio iaith arwyddion

Ar ôl i weithwyr proffesiynol sydd â sgiliau iaith arwyddion asesu eich anghenion, gallwn gynnig:

  • gwybodaeth a chyngor yn Iaith Arwyddion Prydain
  • cymorth a chyngor ar gyfer pobl ifanc 18-25 wrth iddynt symud o'r ysgol i addysg bellach a byd gwaith.
  • cofrestru pobl gyda'r awdurdod lleol
  • cysylltu ag asiantaethau eraill gan gynnwys hybu cyfle cyfartal o ran sicrhau gwasanaethau ar gyfer pobl Fyddar
  • offer arbenigol i hybu annibyniaeth
  • gwasanaethau gofal - gofalwr cartref a gweithwyr cymorth arbenigol â sgiliau Iaith Arwyddion Prydain sydd wedi cael hyfforddiant cydraddoldeb byddar/ymwybyddiaeth am fyddardod

Sut i ofyn am ein gwasanaethau?

Os ydych yn adnabod rhywun a all fod angen ein help a'n cymorth, ffoniwch ni ar

029 2087 2088

Gwybodaeth am wasanaethau a chymorth ar gyfer pobl sydd â nam ar y golwg neu'r clyw yng Nghaerdydd.