Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Gordaliadau

Mae gordaliad yn digwydd pan fo gormod o Fudd-dal Tai yn cael ei dalu i chi. Fel arfer rhaid talu gordaliad yn ôl.

Pan wneir gordaliad byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi pwy fydd yn gorfod ad-dalu'r gordaliad. Byddwn yn ysgrifennu at eich landlord hefyd os cafodd y budd-dal ei dalu iddyn nhw.

Fel arfer eich cyfrifoldeb chi, y tenant, yw ad-dalu'r gordaliad. Dan rai amgylchiadau gallwn adennill y gordaliad oddi wrth eich landlord, ond dim ond os ydym o'r farn bod y landlord yn gwybod am y newid a heb roi gwybod i ni amdano. Ni fyddwn yn adennill y gordaliad oddi wrth eich landlord os yw'r landlord wedi rhoi gwybod i ni am y newid.

Talu eich Gordaliad Budd-dal Tai

Defnyddiwch ein system talu ar-lein ddiogel i gwneud taliad i'r cyngor.

Sicrhewch fod gennych rhif yr anfoneb wrth law (rhif 6 neu 7 digid).

Talu eich Gordaliad Budd-dal Tai

Sut y caiff yr arian ei adennill

Fel arfer caiff gordaliadau Budd-dal Tai eu hadennill:

  • drwy leihau taliadau Budd-dal Tai yn y dyfodol,
  • drwy anfon bil,
  • drwy leihau budd-daliadau eraill fel Cymhorthdal Incwm.

Adennill drwy randaliadau

Os ydych yn dal i gael Budd-dal Tai caiff y gordaliad ei adennill drwy ddidynnu arian o'ch taliadau parhaus. Byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud faint o arian a gaiff ei ad-dalu bob wythnos.

Bydd angen i chi drefnu i dalu gweddill y rhent i'ch landlord er mwyn osgoi mynd i ddyled gyda'r rhent.

Os nad ydych yn cael Budd-dal Tai byddwn yn anfon bil atoch, a gallwch ei dalu drwy randaliadau. Cysylltwch â ni i wneud trefniadau.

Beth i'w wneud os na allwch ad-dalu'r arian

Rhaid i chi gysylltu â ni ar unwaith os na allwch ad-dalu'r gordaliad. Weithiau byddwn yn cytuno i leihau'r swm y mae'n rhaid i chi ei dalu yn ôl bob mis. Bydd rhaid i chi lenwi ffurflen caledi (PDF, 49 KB) a rhoi manylion am eich incwm a'ch costau. Pan fyddwn yn penderfynu os ydym am leihau'r swm i'w adennill byddwn yn ystyried:

  • eich incwm / cynilion
  • costau'r cartref
  • balans y gordaliad
  • y tebygolrwydd y cewch eich troi allan o'ch cartref
  • amgylchiadau megis anabledd neu salwch
  • rheswm dros y gordaliad

Byddwn yn ceisio dod i benderfyniad cyn pen dwy wythnos. Os byddwch yn anghytuno â phenderfyniad o ran caledi gallwch ofyn i ni ailystyried y penderfyniad. Byddwn yn rhoi gwybod i chi sut i wneud hyn pan fyddwn yn eich hysbysu o'n penderfyniad. Caiff y gyfradd adennill ei hadolygu bob blwyddyn neu'n gynharach os bydd eich amgylchiadau'n newid.

Mewn rhai achosion eithriadol iawn byddwn yn cytuno nad oes rhaid ad-dalu'r gordaliad. Mae'n rhaid i chi gysylltu â ni os ydych o'r farn na ddylech orfod ad-dalu'r gordaliad.

Os yw'r Adran Gwaith a Phensiynau yn gwneud didyniadau mae'n rhaid i chi gysylltu â nhw'n uniongyrchol i ofyn iddynt leihau'r gyfradd adennill. I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 0845 850 0293.

Methu â thalu

Os na chaiff gordaliad ei ad-dalu gallwn ofyn i'ch cyflogwr wneud didyniadau o'ch cyflog heb gymryd camau cyfreithiol. Atafaelu Enillion yn Uniongyrchol yw hwn.

Gallwn gymryd camau cyfreithiol yn y Llys Sirol hefyd. Bydd hyn yn cynyddu eich dyled drwy ychwanegu costau llys ati.

Gall y llys orchymyn bod y ddyled yn cael ei hadennill o'ch:

  • cyflog os ydych yn gweithio,
  • eich cyfrif banc,
  • gall tâl gael ei godi ar eich eiddo,
  • gallwch gael eich gwneud yn fethdalwr.

Gall y llys hefyd gyhoeddi gwŷs i chi ddod i'r llys i gael eich holi. Os nad ewch i'r llys gallech gael eich arestio.

Ar ôl i gytundeb gael ei wneud â'r Llys Sirol, bydd yn rhaid i chi wneud cais uniongyrchol i'r llys os oes angen i'r gyfradd ad-dalu gael ei leihau.

Apelio yn erbyn penderfyniad

Os nad ydych yn fodlon â phenderfyniad ar ad-dalu gordaliad dylech gysylltu â ni ar unwaith. Gallwch holi am fanylion ynglŷn â sut y gwnaed y penderfyniad, a gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad os ydych o'r farn ei fod yn anghywir. 

Cysylltu â ni