Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Atafaelu enillion yn uniongyrchol

Mae Atafaelu Enillion yn Uniongyrchol (AEU) yn ffordd y gall cynghorau adennill dyledion gan unigolyn. I drefnu AEU, bydd y cyngor yn gofyn i gyflogwr wneud didyniadau o gyflog cyflogai. Yna caiff y swm hwn ei dalu i'r cyngor i leihau neu glirio dyled yr unigolion.

Mae Canllawiau Cyflogwyr i Atafaelu Enillion yn Uniongyrchol (PDF, 338 KB) yn cynnig cyngor ar beth sydd angen i gyflogwr ei wneud os caiff ei ofyn i gyflawni AEU.

Mae'n esbonio:

  • Sut i roi trefniant Atafaelu Enillion yn Uniongyrchol ar waith.
  • Sut i gyfrifo faint i'w ddidynnu o enillion y cyflogai.
  • Sut a phryd i dalu'r arian a ddidynnwyd i'r Cyngor.
  • Cyfrifoldebau'r cyflogwr dan y gyfraith.

Rhaid cwblhau amserlen taliadau (PDF, 82 KB) a'i hanfon i'r Cyngor i nodi faint o arian a ddidynnwyd o gyflog y cyflogai. Dylech atodi'r amserlen wedi'i llenwi i unrhyw daliadau siec neu ei hanfon ar wahân pan fyddwch yn gwneud taliadau drwy BACS.

Nod y canllaw yw helpu cyflogwyr i ddeall y prif bwyntiau ynghylch Atafaelu Enillion Uniongyrchol, ond nodwch nad datganiad llawn o'r gyfraith ydyw.

Dysgwch fwy am ddeddfwriaeth AEU i gyflogwyr ar wefan Legislation GOV UK.

Os ydych yn gyflogwr a bod gennych unrhyw gwestiynau ar ôl darllen y canllaw, cysylltwch â ni neu ffoniwch ni ar 029 2053 7500

Cysylltu â ni

Gweler hefyd