Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Cyrsiau BTEC

​​​​Mae cyrsiau achrededig BTEC Addysg Alwedigaethol Caerdydd (Chwaraeon, Hamdden a Datblygu) ar agor i bobl ifanc 14 i 16 oed. 

Bydd y cyrsiau'n gyfle i fyfyrwyr ennill y profiad gwaith sydd ei angen yn eu pwnc dewis a all arwain at addysg bellach, cynlluniau prentisiaeth, rhaglenni hyfforddiant a gyrfa foddhaus. Mae cyrsiau'n hyblyg ac mewn lleoliadau gwahanol ledled y ddinas​.

Mae ein rhaglen strwythuredig yn cynnig cyrsiau achrededig mewn:

Gofal anifeiliaid

Mae Ysgol Farchogaeth Caerdydd yn cynnig ystod eang o gymwysterau ar ofalu am geffylau a merlod a rheoli stablau.

Mae'r ysgol ei hun mewn ardal led-wledig yng nghanol y ddinas sy'n amgylchedd addysgu delfrydol. 

Sesiynau ymarferol a gynigir yn bennaf ond mae elfen o waith ystafell ddosbarth a chaiff y cwrs ei asesu trwy dasgau a gwaith cwrs. 

Byddwch yn gallu manteisio ar Ysgol Farchogaeth Caerdydd sydd â'r holl offer angenrheidiol.​

Y pynciau dan sylw

  • Sut i osod cyfrwy a ffrwyn ar geffyl
  • Gofal ceffylau sylfaenol
  • Gofal ar gyfer ceffylau a gedwir ar laswellt 
  • Adnabod ceffylau
  • Archwilio ceffylau am gyflyrau iechyd 
  • Gosod rhwymynnau ar geffyl 
  • Cynorthwyo wrth osod cyfrwy a ffrwyn ar geffyl 
  • Gofal ceffyl ar ôl ymarfer corff 
  • Cynorthwyo wrth ofalu am draed ceffylau 
  • Ysgrafellu ceffyl 
  • Paratoi ceffyl ar gyfer digwyddiad
  • Adnabod lliwiau a marciau ar geffyl​
  • Cadw cofnodion ceffylau 
     

Sut caiff y cwrs ei asesu?

Caiff ei asesu trwy dasgau a gwaith cwrs.
 

Ble caiff y cwrs ei gynnal?

Ysgol Farchogaeth Caerdydd, Caeau Pontcanna, Fields Park Road, Pontcanna, Caerdydd, CF5 2AX 
 

At beth gall y cwrs arwain?

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch chi symud ymlaen at gwrs Lefel 2, prentisiaeth neu gyflogaeth. 
 

Gofynion mynediad i'r cwrs

Ar gyfer CA4 Blwyddyn 10 ac 11 a phobl ifanc 14 i 16 oed. 

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ond dylai ymgeiswyr fod â diddordeb amlwg yn y pwnc.​

 

Mecaneg a pheirianneg​

Yn ogystal â dysgu sgiliau cynnal a chadw mecanyddol beiciau modur a thechnegau reidio mewn rhaglen hyfforddi achrededig, mae'r gweithgarwch corfforol sydd ynghlwm wrth gymryd rhan mewn sesiynau Chwaraeon Modur yn yr amgylchedd naturiol wedi cael ei brofi i fod yn ddull effeithiol o ysgogi dysgu. Mae hyn yn helpu i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a meithrin tîm sydd, yn ei dro, yn gwella'r cyfle o gael cyflogaeth yn y dyfodol.

Nod y rhaglen chwaraeon modur a pheirianneg, sy'n broject cymunedol ar gyfer beiciau modur oddi ar y ffordd, yw darparu amgylchedd diogel a rheoledig i bobl ifanc ddysgu a magu sgiliau newydd. Bydd myfyrwyr yn gallu manteisio ar ganolfan beicio modur oddi ar y ffordd â'r holl offer angenrheidiol.
 

Y pynciau dan sylw

  • Cynnal a chadw beiciau modur
  • Reidio beiciau modur
  • Gwaith paratoi ymarferol
  • Ymarfer corff
  • Sgiliau cymdeithasol 
  • Rhifedd a llythrennedd 
  • Datblygiad personol
  • Magu hunanhyder a'r wybodaeth i ymgeisio am swyddi yn y sector
  • Deall a magu'r sgiliau a'r rhinweddau y mae eu hangen i weithio yn y diwydiant hwn
     

Sut caiff y cwrs ei asesu?

Caiff ei asesu trwy dasgau a gwaith cwrs.
 

Ble caiff y cwrs ei gynnal?

Canolfan Beiciau modur, Oddi ar y Ffordd, ger Rover Way, Tremorfa, Caerdydd
 

At beth gall y cwrs arwain?

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch chi symud ymlaen at gwrs Lefel 2, prentisiaeth neu gyflogaeth. 
 

Gofynion mynediad i'r cwrs

Ar gyfer CA4 Blwyddyn 10 ac 11 a phobl ifanc 14 i 16 oed.  

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ond dylai ymgeiswyr fod â diddordeb amlwg yn y pwnc.​

 

Cysylltu â ni

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â ni.​

Cysylltu â ni

029 2233 0270​