Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Rhaglen Camau Iau

Mae ein rhaglen Camau Iau yn cynnig cyfleoedd dysgu a datblygu gwych i blant Ysgol Gynradd CA2 mewn amrywiaeth o bynciau cyffrous.​

Nod y rhaglen yw annog, ymgysylltu a chefnogi disgyblion wrth iddynt ddysgu a datblygu sgiliau a phrofiadau newydd trwy gydol y cwrs. Cynhelir sesiynau un diwrnod yr wythnos mewn sawl lleoliad gwahanol ar draws y ddinas trwy gydol y flwyddyn ysgol.​
 

Gofal anifeiliaid

Gwybodaeth am y Cwrs Gofal Anifeiliaid.

Gall anifeiliaid gynnig llawer iawn o gefnogaeth emosiynol. Defnyddir y ceffylau yn Ysgol Farchogaeth Caerdydd mewn lleoliad therapiwtig i helpu plant i ymdopi â phrofiadau emosiynol heriol.

Bydd y plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau fel paratoi, bwydo ac arwain ceffyl wrth gael eu goruchwylio gan weithiwr proffesiynol. Nod y rhaglen hon yw helpu plant i ddatblygu sgiliau fel rheolaeth emosiynol, hunanhyder a chyfrifoldeb.

Mae'r rhaglen Gofal Anifeiliaid o fudd i ystod eang o blant, gan gynnwys y rhai sydd â heriau ymddygiadol, problemau iechyd meddwl ac anawsterau dysgu. Mae'n helpu i wella lles meddyliol a chorfforol a sgiliau cymdeithasol. Mae hefyd o fudd i unrhyw un sy'n chwilio am ffordd newydd o wella hyder a hunanymwybyddiaeth, neu sy'n dyheu am seibiant i ymlacio o'r drefn arferol.

Buddion a chanlyniadau'r cwrs

  • Dysgu sut i ofalu am geffylau a merlod.
  • Dysgu technegau rheoli ceffylau sylfaenol.
  • Cynnal archwiliadau dyddiol o geffylau i chwilio am gyflyrau iechyd.
  • Meithrin cyfeillgarwch.
  • Meithrin partneriaeth ymddiriedus rhwng ceffylau a phobl.
  • Datblygu gwaith tîm a sgiliau arwain.
  • Cyfleoedd i farchogaeth.

Ble caiff y cwrs ei gynnal? 

Ysgol Farchogaeth Caerdydd
Caeau Pontcanna
Fields Park Road
Pontcanna
CF5 2AX​

 

Cysylltu â ni​​​

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â ni.​

Cysylltu â ni

​​029 2233 0270