Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Cyfleoedd cyllid allanol

Gall cyllid ddod o lawer o wahanol ffynonellau. Rydym wedi tynnu sylw at rai cyfleoedd ariannu allanol.

C3SC

 

Mae'r sefydliad hwn yn darparu cymorth a chyngor i sefydliadau'r trydydd sector o ran mynediad i gyfleoedd cyllid.

Ewch i wefan C3SC i gael mwy o wybodaeth.

 

CGGC

 

Mae'r sefydliad hwn yn rheoli sawl cynllun ariannu gwahanol sydd o fudd i'r sector gwirfoddol yng Nghymru.

Ewch i wefan CGGC i gael mwy o wybodaeth.

 

Sefydliad Cymunedol Cymru

 

Mae gan Sefydliad Cymunedol Cymru nifer o gyfleoedd cyllid ar gael hefyd.

Gallwch weld ystod o gyfleoedd ar y wefan Sefydliad Cymunedol Cymru .

 

Plant a phobl ifanc

Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd cyllid allanol sydd ar gael.

 

Y Clothworkers Foundation

 

Y Clothworkers Foundation yw cangen elusennol y Clothworkers Company, sy'n darparu grantiau tuag at brosiectau cyfalaf ers 1977.

Pwy all wneud cais?

Elusennau cofrestredig, cwmnïau buddiannau cymunedol, sefydliadau elusennol corfforedig ac ysgolion arbennig.

Amcanion y gronfa

Bydd y sefydliad yn darparu cyllid cyfalaf tuag at:

  • adeiladau (ffitio, gosodiadau ac offer), a
  • cerbydau (ac eithrio prydlesu).

Swm y cyllid i bob prosiect

Mae grantiau bach a mawr ar gael.

Dyddiad cau

Nid oes dyddiad cau ar gyfer y cyllid hwn.

Ewch i wefan y Clothworkers' Foundation i gael mwy o wybodaeth.

 

Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol - Cymru

 

Bwriad y prosiect hwn yw cefnogi prosiectau sy'n cyflawni canlyniadau cadarnhaol i gymunedau lleol ac sy'n bodloni o leiaf un o flaenoriaethau Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, sef:

  • dod â phobl ynghyd i adeiladu perthynas gref mewn ac ar draws cymunedau,
  • gwella'r lleoedd a'r mannau sy'n bwysig i gymunedau,
  • helpu rhagor o bobl i gyrraedd eu potensial, drwy eu cefnogi ar y cam cynharaf posibl, a
  • cefnogi pobl, cymunedau a sefydliadau sy'n wynebu mwy o ofynion a heriau oherwydd yr argyfwng costau byw.

Gall prosiectau a gefnogir gan Arian i Bawb gynnwys cyflwyno gweithgaredd newydd neu bresennol neu gefnogi sefydliad i newid ac addasu i heriau newydd ac yn y dyfodol.

Pwy all wneud cais?

Sefydliadau gwirfoddol a chymunedol, ysgolion a chyrff statudol.

Amcanion y gronfa

Cefnogi prosiectau sy'n gwella bywydau cymunedau lleol, a helpu sefydliadau cymunedol i newid ac addasu i heriau newydd ac yn y dyfodol.

Swm y cyllid i bob prosiect

Gallwch hawlio rhwng £300 a £10,000 mewn grantiau.

Dyddiad cau

Nid oes dyddiad cau wedi'i nodi.

 

Ewch i wefan Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i gael mwy o wybodaeth.

 

Tesco Stronger Starts

 

Mae grantiau ar gael i grwpiau cyfansoddiadol a sefydliadau nid er elw ar gyfer achosion da lleol sy'n canolbwyntio ar gefnogi plant a theuluoedd yn y DU.

Pwy all wneud cais?

Er bod y pwyslais presennol ar ysgolion a sefydliadau sy'n gweithio gydag ysgolion, gall sefydliadau dielw yn y DU wneud cais os ydynt yn gyfansoddiadol a bod ganddynt ddogfen lywodraethu.

Mae hyn yn cynnwys:

  • sefydliadau gwirfoddol a chymunedol,
  • elusennau cofrestredig,
  • cwmnïau buddiannau cymunedol cyfyngedig drwy warant a fu'n rhedeg am o leiaf 2 flynedd,
  • grwpiau cyfeillion,
  • mentrau cymdeithasol,
  • cymdeithasau diwydiannol a darbodus,
  • ysgolion,
  • cyrff iechyd fel ymddiriedolaethau ysbytai'r GIG ac ymddiriedolaethau sylfaen,
  • cynghorau plwyf, tref, neu gymuned,
  • awdurdodau lleol,
  • hosbisau,
  • canolfannau gofal dydd, a
  • cymdeithasau tai.

Amcanion y gronfa

Cael ysgolion sydd â diffyg arian ac adnoddau i wneud cais am gymorth ariannol ychwanegol, i ddarparu bwyd a gweithgareddau iach sy'n hybu lles meddyliol a chorfforol pobl ifanc.

Swm y cyllid i bob prosiect

Gallwch hawlio hyd at £1,500 mewn grantiau.

Dyddiad cau

Nid oes dyddiad cau wedi'i nodi.

 

Ewch i wefan Grantiau Cymunedol Tesco i gael mwy o wybodaeth.

 

Cyllid LoveReading4Kids i Ysgolion

 

Mae'r cynllun LoveReading4Kids yn darparu cyllid i ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth yn y DU i gefnogi mynediad at lyfrau, a gadael i blant brofi darllen er pleser.

Pwy all wneud cais?

Ysgolion cynradd ac uwchradd a lleoliadau blynyddoedd cynnar a ariennir gan y wladwriaeth.

Amcanion y gronfa

Bydd LoveReading4Kids yn darparu grantiau i ysgolion drwy gredyd i'w wario yn eu siop lyfrau ar-lein i brynu llyfrau nad ydynt ar y cwricwlwm.

Swm y cyllid i bob prosiect

Gallwch hawlio rhwng £1,000 a £5,000 mewn grantiau, a ddyfernir ar ffurf credyd.

Dyddiad cau

Nid oes dyddiad cau wedi'i nodi.

 

Ewch i wefan LoveReading4Kids i gael mwy o wybodaeth.

 

Cymdeithas Ysgolion Prydain a Thramor

 

Mae'r Gymdeithas Ysgolion Prydain a Thramor yn cefnogi sefydliadau elusennol sy'n gweithio i wella mynediad at addysg neu ansawdd addysg i blant a phobl ifanc o dan 25 oed, yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae'n dyfarnu tua £900,000 mewn grantiau newydd bob blwyddyn.

Pwy all wneud cais?

Derbynnir ceisiadau gan elusennau cofrestredig yn y DU sydd ag incwm blynyddol o rhwng £25,000 a £2.5 miliwn, ac o leiaf 3 blynedd o gyfrifon di-dor. Mae'n rhaid i sefydliadau cymwys fod yn y Deyrnas Unedig.

Ar gyfer prosiectau'r DU, mae ysgolion, academïau, colegau a sefydliadau addysgol eraill a ariennir gan y wladwriaeth (ni waeth beth fo'u hincwm) yn gymwys, ar yr amod y gallant ddangos effaith rhwydwaith y tu hwnt i un ysgol unigol.

Amcanion y gronfa

Hyrwyddo cyfleoedd addysgol yn y DU a gwledydd datblygol.

Drwy brosiectau yn y DU, mae'r Gymdeithas yn cefnogi gwaith i wella canlyniadau addysgol a chyfleoedd bywyd y canlynol:

  • pobl ifanc sydd wedi'u dadleoli,
  • gofalwyr ifanc, a
  • pobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal.

Swm y cyllid i bob prosiect

Gallwch hawlio grantiau rhwng £30,000 a £90,000 ar gyfer prosiectau yn y DU o 1 i 3 blynedd, neu hyd at £30,000 y flwyddyn ar gyfer prosiectau aml-flwyddyn yn y DU.

Dyddiad cau

Nid oes dyddiad cau wedi'i nodi.

 

Ewch i wefan Cymdeithas Ysgolion Prydain a Thramor i gael mwy o wybodaeth.

 

Arian i Blant - Grantiau Iechyd Meddwl Plant

 

Cash for Kids yw elusen swyddogol Bauer Media. Mae Bauer Media yn gwmni cyfryngau rhyngwladol sy'n cynnal rhai o'r gorsafoedd radio a chylchgronau mwyaf yn y farchnad.

Mae Cash for Kids yn elusen sy'n rhoi grantiau gyda'r nod o roi cymorth i blant o'u genedigaeth hyd at 18 oed ledled y DU. Mae'r grant Iechyd Meddwl Plant yn rhan o'r rhaglen Grant Cyffredinol.

Pwy sy'n gallu gwneud cais?

Derbynnir ceisiadau gan elusennau cofrestredig, ysgolion, a sefydliadau gwirfoddol a chymunedol gyda chyfansoddiad ffurfiol ledled y DU. Gall unigolion hefyd wneud cais.

Dylai elusennau fod ag incwm blynyddol llai nag £1 miliwn.

Dylai grwpiau edrych ar y dudalen lleoliadau Cash for Kids i helpu i sicrhau eu bod yn gymwys.

Amcanion y gronfa

Nod y rhaglen yw gwella lles meddyliol plant a phobl ifanc (hyd at 18 oed) yn y DU.

Swm y cyllid i bob prosiect

Rhwng £1,000 a £3,000 y mae'r grantiau fel arfer. Gellir hefyd ariannu ceisiadau mwy.

Dylid gwario'r grant o fewn 6 mis.

Dyddiad cau

Does dim dyddiad cau penodol wedi'i nodi.

Ewch i wefan Cash for Kids i gael mwy o wybodaeth am y grant.

 

Sefydliad Alpkit

 

Mae grantiau ar gael i grwpiau cymunedol, ysgolion a sefydliadau dielw eraill ar gyfer prosiectau sy'n hyrwyddo addysg, cyfranogiad, yr amgylchedd, amrywiaeth ac iechyd yn y DU.

Pwy all wneud cais?

Bydd ceisiadau'n cael eu hystyried gan grwpiau cymunedol, ysgolion a sefydliadau sydd wedi'u lleoli ac yn gweithio yn y DU.

Amcanion y gronfa

Sbarduno prosiectau gweithredu uniongyrchol ar lawr gwlad sy'n mynd i'r afael â materion fel amrywiaeth a chynhwysiant yn yr awyr agored, cyfranogiad, addysg, cadwraeth a diogelu'r amgylchedd naturiol ac iechyd a lles.

Swm y cyllid i bob prosiect

Gallwch hawlio rhwng £50 a £500 mewn grantiau.

Dyddiad cau

Nid oes dyddiad cau wedi'i nodi.

 

Ewch i wefan Alpkit i gael mwy o wybodaeth.

 

Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru

 

Lansiwyd y Gwasanaeth Ynni ym mis Hydref 2018 ac fe'i hariennir gan Lywodraeth Cymru. Cyflawnir y cynllun drwy gonsortiwm, dan arweiniad yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni a'r Ymddiriedolaeth Garbon ac fe'i cefnogir gan Bartneriaethau Lleol. Mae'r consortiwm yn cynnwys Ricardo Energy and Environment, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Regen, GEP Environmental, Awel Aman Tawe ac Ecodyfi.

Pwy all wneud cais?

Derbynnir ceisiadau gan sefydliadau'r sector cyhoeddus a grwpiau cymunedol yng Nghymru. Mae sefydliadau cymwys yn cynnwys:

  • awdurdodau lleol,
  • byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau,
  • prifysgolion, colegau ac ysgolion,
  • parciau cenedlaethol,
  • gwasanaethau tân ac achub,
  • llyfrgelloedd ac amgueddfeydd cenedlaethol,
  • cynghorau celfyddydau a chwaraeon,
  • cynghorau cymuned, a
  • mentrau cymunedol.

Amcanion y gronfa

Cynnig cymorth cynllunio ariannol, technegol a chyllid fel benthyciadau di-log a grantiau i'r sector cyhoeddus a grwpiau cymunedol yng Nghymru. Mae hyn i gefnogi datblygiad eu cynlluniau ynni adnewyddadwy.

Swm y cyllid i bob prosiect

Nid oes unrhyw isafswm nac uchafswm o gyllid wedi'i nodi.

Dyddiad cau

Nid oes dyddiad cau wedi'i nodi.

 

Ewch i adran y Gwasanaeth Ynni ar wefan Llywodraeth Cymru i gael mwy o wybodaeth.

 

Grantiau Plant Mewn Angen y BBC

 

Mae Plant Mewn Angen y BBC yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc difreintiedig. Mae'n ariannu sefydliadau sy'n gweithio i frwydro yn erbyn y difreintedd hyn.

Pwy all wneud cais am grantiau craidd neu brosiectau?

Gall sefydliadau dielw cofrestredig sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc difreintiedig 18 oed neu iau sy'n byw yn y DU, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel wneud cais.

Y sefydliadau sy'n bodloni'r meini prawf hyn yw:

  • cwmnïau buddiant cymunedol,
  • cwmnïau cyfyngedig drwy warant gan gynnwys mentrau cymdeithasol,
  • cymdeithasau tai,
  • cymdeithasau buddiannau cymunedol diwydiannol a darbodus,
  • elusennau cofrestredig,
  • sefydliadau crefyddol,
  • ysgolion arbennig, a
  • hosbisau.

Amcanion y gronfa

Dosbarthu arian a godir bob blwyddyn fel grantiau i sefydliadau sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc difreintiedig, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w bywydau.

Swm y cyllid i bob prosiect

Yr uchafswm grant yw £120,000 (neu £40,000 dros 3 blynedd), er bod y rhan fwyaf o grantiau a wneir am swm llawer llai na hyn. Gall y ffrwd grantiau craidd gefnogi sefydliadau am hyd at 3 blynedd.

Dyddiad cau

Nid oes dyddiad cau wedi'i nodi.

Dysgwch fwy am grantiau craidd a grantiau prosiect Plant Mewn Angen y BBC.

 

Ymddiriedolaeth Elusennol Gibbs

 

Mae grantiau ar gael i elusennau yn ne Cymru sydd wedi'u cofrestru yn y DU i gefnogi gweithgareddau elusennol cyffredinol.

Pwy sy'n gallu gwneud cais?

Gall elusennau yn ne Cymru sydd wedi'u cofrestru yn y DU wneud cais.

Mae yna dueddiad i gefnogi prosiectau y mae ymddiriedolwyr yn eu hadnabod ac yn gallu ymweld â nhw.

Nodau'r gronfa

Mae cyllid ar gael ar gyfer gwaith yn y meysydd canlynol:

  • Dibenion elusennol cyffredinol.
  • Addysg neu hyfforddiant.
  • Hyrwyddo iechyd neu achub bywydau.
  • Atal neu leddfu tlodi.
  • Cymorth tramor neu leddfu newyn.
  • Gweithgareddau crefyddol.
  • Celfyddydau, diwylliant, treftadaeth neu wyddoniaeth.

Swm y cyllid i bob prosiect

Rhoddir grantiau yn ôl disgresiwn yr Ymddiriedolaeth. Nid oes uchafswm na lleiafswm wedi'i osod.

Dyddiad cau

Nid oes dyddiad cau ar gyfer y cyllid hwn.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Ymddiriedolaeth Gibbs .

 

Sasha Foundation

Mae grantiau ar gael i elusennau'r DU sy'n helpu pobl ifanc sy'n profi anawsterau gydag iechyd meddwl neu sy'n defnyddio sylweddau.

Pwy sy'n gallu gwneud cais?

Gall elusennau cofrestredig y DU wneud cais. Caiff y canlynol flaenoriaeth:

  • grwpiau cymunedol ar lawr gwlad, a
  • sefydliadau gwirfoddol bach a chanolig.

Nodau'r gronfa

Mae'r cyllid hwn wedi'i gynllunio i gefnogi sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl ifanc, yn enwedig y rheini sy'n profi:

  • iselder,
  • anawsterau iechyd meddwl eraill, neu
  • faterion sy'n ymwneud â defnyddio cyffuriau neu alcohol.

Swm y cyllid i bob prosiect

Mae grantiau o hyd at £10,000 ar gael.

Dyddiad cau

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Ebrill 2026. Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chael gwybod sut i wneud cais ar wefan Sasha Foundation.

 

Cronfa NextGen Youth Music

Mae grantiau ar gael i bobl greadigol ifanc yn y DU i'w helpu i gael mynediad at wahanol gyfleoedd yn y diwydiannau cerddoriaeth.

Pwy sy'n gallu gwneud cais?

Mae cyllid ar gael i bobl ifanc nad oes ganddynt y cyllid i ddatblygu eu prosiectau neu syniadau creadigol.

Gallwch wneud cais os ydych chi'n:

  • 18 i 25 oed, neu
  • dan 30 oed ac yn ystyried eich hun yn F/fyddar, yn niwrowahanol neu'n anabl.

Nodau'r gronfa

Nod y gronfa yw helpu cerddorion cyfnod cynnar, a phobl greadigol eraill, i fuddsoddi yn eu prosiectau a gwneud i'w syniadau ddod i'r amlwg. Mae cyllid wedi'i anelu'n arbennig at bobl ifanc y mae eu diffyg cyllid yn eu hatal rhag mynd ar drywydd eu nodau.

Swm y cyllid i bob prosiect

Mae grantiau o hyd at £3,000 ar gael.

Dyddiad cau

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 6 Chwefror 2026. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan Youth Music.