Nod Cyngor Caerdydd yw sefydlu Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd annibynnol i gefnogi, cynnal a thyfu ecosystem cerddoriaeth Caerdydd.
Gwnaed cyfres o argymhellion ar gyfer cylch gwaith a chyfansoddiad y Bwrdd o fewn yr Ymchwil ac Adroddiad Strategaeth Caerdydd gan Sound Diplomacy (PDF, 4 MB) , ac mae Cyngor Caerdydd yn cynnig sefydlu'r Bwrdd ar sail yr argymhellion hynny yn ogystal â chylch gorchwyl drafft. Darllenwch y Grynodeb Gweithredol (PDF, 9 MB)
Pwrpas y Bwrdd yw hyrwyddo sin cerddoriaeth Caerdydd yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, diogelu a hyrwyddo cerddoriaeth ar lawr gwlad a phob lefel, gan ddarparu llwyfan ar gyfer mwy o gyfathrebu a chydweithio ar draws y sector.
Bydd Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd yn galluogi arbenigwyr o wahanol sectorau i weithio gyda'i gilydd tuag at nodau cyffredin er mwyn elwa a datblygu ecoleg a busnes cerddoriaeth yng Nghaerdydd, gan gefnogi'r dyhead bod Caerdydd yn cael ei dathlu fel Dinas Gerdd.
Crynodebau o Gyfarfodydd Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd
Rhestr o aelodau Bwrdd Cerddoriaeth Cyngor Caerdydd (Excel doc, 38 KB)
2024
2023
- Hydref 2023 - crynodeb o'r cyfarfod (PDF, 291 KB)
- Gorffennaf 2023 - crynodeb o'r cyfarfod (PDF, 266 KB)
- Mawrth 2023 - crynodeb o'r cyfarfod (PDF, 216 KB)
- Ionawr 2023 - crynodeb o'r cyfarfod (PDF, 196 KB)
