Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Cronfa cymorth dewisol

Gallwch wneud cais am gymorth drwy'r Gronfa Cymorth Dewisol os na allwch dalu am bethau yr ydych chi eu hangen.

Mae 2 fath o daliadau drwy'r Gronfa Cymorth Dewisol:

  • Taliad Cymorth Unigol, a
  • Thaliad Cymorth Brys.

Sylwch na chewch wneud cais am grant Cronfa Cymorth Dewisol os ydych eisoes wedi derbyn grant yn ystod y 7 diwrnod diwethaf, neu 3 grant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Taliad Cymorth Unigol (TCU)

Mae'r Taliad Cymorth Unigol yn grant:

  • i'ch helpu i fyw'n annibynnol yn eich cartref presennol neu gartref newydd, neu
  • i helpu rhywun rydych yn gofalu amdano i fyw'n annibynnol yn ei gartref presennol neu gartref newydd.

Bydd y grant yn darparu neu'n cyflenwi:

  • nwyddau gwyn (er enghraifft, oergell, popty neu beiriant golchi), a
  • dodrefn cartref (er enghraifft, gwelyau, soffas a chadeiriau).

Dim ond trwy bartner cymeradwy y cewch wneud cais am nwyddau gwyn a dodrefn cartref.


Pwy gaiff wneud cais?

I wneud cais am y Taliad Cymorth Unigol, mae'n rhaid i chi:

  • fod yn byw yng Nghymru,
  • fod yn 16 oed neu'n hŷn,
  • fod heb fynediad at arian arall,
  • fod wedi ceisio defnyddio'r holl ffynonellau cyllid fforddiadwy eraill (er enghraifft, undeb credyd),
  • beidio â bod yn byw mewn cartref gofal (oni bai eich bod yn cael eich rhyddhau yn y 6 wythnos nesaf)
  • beidio â bod yn y carchar (oni bai eich bod yn cael eich rhyddhau yn y 6 wythnos nesaf), a
  • beidio â bod yn aelod o urdd grefyddol a gynhelir yn llawn.

Mae'n rhaid eich bod eisoes yn cael:

  • cymhorthdal Incwm,
  • lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Elfen Warantedig y Credyd Pensiwn, neu
  • Gredyd Cynhwysol (lwfans safonol neu bersonol).

Mae'n rhaid i chi hefyd:

  • fod yn gadael cartref gofal neu sefydliad (er enghraifft, ysbyty, carchar neu ofal maeth) i fyw'n annibynnol ar ôl o leiaf 3 mis,
  • fod eisiau parhau i fyw yn eich cymuned yn hytrach na gorfod mynd i sefydliad,
  • fod wrthi'n sefydlu cartref ar ôl cyfnod o fyw'n ansefydlog,
  • fod angen symud cartref yn gyflym oherwydd perthynas yn chwalu neu drais domestig, neu
  • fod yn gofalu am garcharor neu droseddwr ifanc sydd wedi'i ryddhau ar drwydded dros dro.

Taliad Cymorth Brys (TCB)

Mae'r Taliad Cymorth Brys yn grant i helpu i dalu costau hanfodol (er enghraifft, bwyd, nwy, trydan, dillad neu siwrneiau brys) os ydych chi:

  • yn profi caledi ariannol eithafol,
  • wedi colli'ch swydd, ac
  • wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf.

Sylwch na chewch ddefnyddio'r Taliad Cymorth Brys i dalu am filiau parhaus na allwch fforddio eu talu.


Pwy gaiff wneud cais?

I wneud cais am y Taliad Cymorth Brys, mae'n rhaid i chi:

  • fod yn byw yng Nghymru,
  • fod yn 16 oed neu'n hŷn,
  • fod mewn sefyllfa argyfyngus ac angen cymorth ariannol ar fyrder,
  • fod mewn caledi ariannol eithafol,
  • fod heb unrhyw arian arall (er enghraifft, cynilion), a
  • bod wedi ystyried pob benthycwr cyfreithiol a chyfrifol arall (er enghraifft, undebau credyd).

Gallai enghreifftiau o galedi ariannol eithafol gynnwys:

  • rydych chi wedi colli'ch swydd ac rydych chi wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf, neu
  • nid oes gennych chi unrhyw arian i brynu bwyd, nwy a thrydan.

Gwneud cais

I wneud cais i'r Taliad Cymorth Brys, cysylltwch â'r Tîm Cyngor Ariannol.

Gallwch chi wneud cais i'r Taliad Cymorth Unigol ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cymorth arall sydd ar gael

Gweld mwy o opsiynau a allai fod yn ddefnyddiol i chi.


Benthyciadau cyllidebu

Efallai y byddwch yn gymwys i gael benthyciadau cyllidebu os ydych wedi bod ar rai budd-daliadau am 6 mis neu fwy.

Mae benthyciadau cyllidebu yn cael eu gweinyddu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Gallwch chi weld mwy am fenthyciadau cyllidebu ar wefan GOV UK.


Rhagdaliadau Credyd Cynhwysol

Os ydych wedi gwneud cais newydd yn ddiweddar, efallai y byddwch yn gallu cael taliad ymlaen llaw. Bydd angen i chi dalu'r arian hwn yn ôl o daliadau budd-daliadau yn y dyfodol. Gallwch ofyn am hyn drwy eich cofnod Credyd Cynhwysol.


Cymorth costau byw

Gallwch chi weld mwy am gynlluniau eraillchymorth sy'n lleol i chi ar wefan Cyngor Ariannol.