Gallwn gyflwyno'r wybodaeth ganlynol:
- Priffordd Cyhoeddus Mabwysiedig
- Priffordd Cyhoeddus Mabwysiedig a gynhelir gan Fenter Ariannu Preifat (MAP)
- Cytundeb 278
- Cytundeb 38
- Hawliau Tramwy Cyhoeddus (HTC)
- Gorchmynion Addasu Mapiau Diffiniol
Sut mae gwneud cais?
Gallwch wneud cais ar-lein am Chwiliadau Priffyrdd . Bydd angen i chi gofrestru gyntaf ac yna dilyn y ddolen "Chwiliadau Priffyrdd" o'r gwymplen.
Mae angen anfon pob ymholiad ynghylch yr eiddo'n bod yn destun unrhyw dir priffordd neu dir cyngor gwirioneddol neu honedig at y Tîm Ystadau Strategol ar [email protected] gan eu bod nhw'n gweithredu cronfa ddata gwasanaeth benodol sydd â manylion am berchnogaeth tir y cyngor.
I gael rhagor o wybodaeth am gynlluniau gwella Traffig a Thrafnidiaeth, cysylltwch â'r tîm Projectau Trafnidiaeth .
Faint fydd hyn yn costio?
Bydd yn costio £146.57 fesul Chwiliad Priffordd (heb TAW). Does dim modd ad-dalu'r ffi. Mae'n rhaid talu â cherdyn Debyd neu Gredyd cyn bod modd prosesu'r cais.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais, bydd angen ei asesu i sicrhau bod yr holl fanylion angenrheidiol wedi'u nodi. Unwaith y mae'r Chwiliad Priffyrdd wedi'i gyflawni, byddwch yn derbyn e-bost gyda'r dogfennau a llythyr cyflwyno.
