Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Rhowch wybod am broblem mewn parc

Dywedwch wrthym am broblem mewn parc neu fan gwyrdd, megis:        

  • offer wedi'i ddifrodi mewn maes chwarae,    
  • llwybrau troed a gatiau sydd wedi'u difrodi, 
  • glaswellt sydd angen ei dorri,
  • ymddygiad gwrthgymdeithasol,
  • llifogydd, neu  
  • faterion mewn toiledau.

Rhoi gwybod am broblem mewn parc

Ffôn: 029 2233 0235

Baw cŵn

Rhowch wybod am faw cŵn neu lawrlwythwch ein ap Cardiff.Gov.

Coed

Rhowch wybod am broblem gyda choeden.

Chwyn

Rhowch wybod am broblem gyda chwyn neu lawrlwythwch ein ap Cardiff.Gov.

Argyfyngau a gweithgaredd anghyfreithlon

Os gwelwch weithgaredd mewn parc y credwch ei fod yn anghyfreithlon, cysylltwch â'r heddlu. Os gwelwch chi rywun yn ymddwyn yn amheus mewn parc yng Nghaerdydd neu os ydych yn teimlo eich bod dan fygythiad gan ddefnyddwyr eraill mewn parc, ffoniwch 101 ac ewch i leoliad diogel.