Mae gan Gaerdydd amrywiaeth o fesurau atal llifogydd sy'n cael eu gweithredu pan ddisgwylir llawer o law. Mae'r rhain yn cynnwys adeileddau o waith dyn fel Morglawdd Bae Caerdydd, sy'n rheoli lefelau dŵr yn y bae, a gorlifdiroedd ar fannau agored gwyrdd sydd wedi'u cynllunio i orlifo pan fydd lefelau afonydd yn codi'n rhy uchel.
Pan fyddwn yn cael glaw trwm yn y ddinas dilynwch y canllawiau llifogydd ar ein gwefan Cynllunio Brys.
Dyma sut i adrodd am broblemau llifogydd yng Nghaerdydd:
- Os ydych mewn perygl uniongyrchol ffoniwch 999 ar unwaith.
- O afon, môr neu ardal ddraenio fewnol, ffoniwch Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000 neu ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
- Dŵr wyneb, ffyrdd, draeniau wedi'u blocio, nant neu ffrwd, ffoniwch ni yn Cysylltu â Chaerdydd ar 029 2087 2088.
- Prif bibellau dŵr neu garthffosydd, cysylltwch â Dŵr Cymru ar 0800 085 3968.
- Ar draffyrdd neu gefnffyrdd, cysylltwch â Traffig Cymru ar 0300 123 1213.
Cofrestrwch ar gyfer rhybuddion llifogydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Edrychwch ar rhagolygon y tywydd a rhybuddion llifogydd ar wefan y Swyddfa Dywydd.
Bagiau tywod
Mae gennym gyflenwad cyfyngedig o fagiau tywod y gallwn, os yw'r galw am adnoddau ac amodau yn caniatáu, eu defnyddio os yw eiddo mewn perygl o lifogydd.
