Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Iechyd a diogelwch

Rhaid i chi sicrhau bod eich busnes yn cyflawni'r safonau a'r gweithdrefnau iechyd a diogelwch gofynnol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y safonau hyn ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a DiogelwchDolen yn agor mewn ffenestr newydd.

Rydym yn ymchwilio i gynion am faterion iechyd a diogelwch yn y gweithle megis:

  • Cyflogwyr sy'n methu â darparu dillad diogelwch neu gyfleusterau toiled digonol.
  • Amodau gwaith peryglus.

Rydym yn gorfodi deddfwriaeth iechyd a diogelwch yn y gwaith mewn busnesau megis:

  • swyddfeydd a siopau
  • warysau
  • sefydliadau arlwyo
  • lleoedd chwaraeon ac adloniant
  • gwestai a llety preswyl
  • lleoliadau gofal plant
  • gofal a llety anifeiliaid
  • gwasanaethau cosmetig, tatŵo a thriniaethau harddwch
  • Mannau addoli.

Gwnawn hynny drwy gynnal arolygiadau wedi'u cynllunio a mentrau wedi'u targedu.

Rydym yn ymchwilio i ddamweiniau a gofnodwyd, clefydau, digwyddiadau peryglus a chwynion am ddiogelwch yn y gweithle.

Rydym hefyd yn sicrhau safonau diogelwch mewn digwyddiadau awyr agored mawr a gynhelir yn y ddinas.

Rhoi gwybod am fater iechyd a diogelwch

Os oes gennych bryderon am yr amodau neu'r cyfleusterau yn eich gweithle ac nad ydych wedi gallu datrys y mater gyda'ch cyflogwr, gallwch roi gwybod i ni am fater iechyd a diogelwch.

Gallwch roi gwybod am y mater yn ddienw os yw'n well gennych.

Ymchwilio i ddamweiniau

Mae'r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 yn datgan bod rhwymedigaeth gyfreithiol ar gyflogwr, person hunangyflogedig, neu rywun sy'n rheoli safle gwaith roi gwybod am anafiadau, clefydau a digwyddiadau peryglus penodol i'r awdurdod gorfodi.

Gwybodaeth am beth y mae'n rhaid rhoi gwybod amdanoDolen yn agor mewn ffenestr newydd danRIDDOR (Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus 1995).

Mae dyletswydd gyfreithiol arnoch dan RIDDOR i roi gwybod am rai damweiniau sy'n gysylltiedig â'r gwaith a'u cofnodi gan ddefnyddio'r dull cyflymaf posibl.

Diben hyn yw ein galluogi ni i wneud y canlynol:

  • ymchwilio i beth achosodd y ddamwain
  • ei atal rhag digwydd eto
  • galluogi deiliaid dyletswyddau i gydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch

Rhoi gwybod am ddamwain neu ddigwyddiad difrifol

Adrodd ar-lein

Cysylltwch â:

Canolfan Gyswllt Damweiniau Parc Busnes Caerffili Caerffili CF83 3GG

Ffôn: 0845 300 9923 (codir cyfraddau lleol)

Dydd Llun i Ddydd Gwener 8.30am - 5pm

Ar gyfer ddigwyddiadau mwy difrifol megis:

  • damweiniau angheuol
  • damweiniau lle mae nifer o weithiwr wedi'u hanafu'n ddifrifol
  • damwain sy'n achosi anaf difrifol i aelod o'r cyhoedd
  • damweiniau a digwyddiadau sy'n achosi tarfu ar raddfa fawr megis cau ffyrdd, gwacáu cartrefi a busnesau, neu nifer fawr o bobl yn mynd i'r ysbyty

 

Mae croeso i chi gysylltu â ni unrhyw bryd:

Yr Adran Gorfodi Iechyd a Diogelwch

0300 123 6696