Mae gennym lawer o weithgareddau am ddim yn digwydd yn y ddinas a'r ardaloedd cyfagos i sicrhau fod gan blant ddigon i'w wneud yn ystod gwyliau'r ysgol.
Canolfan Hamdden
O bêl-droed a sboncen i chwarae meddal a nofio, mae amrywiaeth o weithgareddau ar gael i chi a'ch teulu aros yn actif dros y gwyliau.
Edrychwch beth sydd ar gael yn eich canolfan hamdden leol.
Cyrsiau Hyfforddiant Beicio i Blant
Bydd Cyrsiau Beicio Safonol Cenedlaethol yn cael eu cynnal yn ystod gwyliau'r ysgol yn y ganolfan Diogelwch ar y Ffyrdd y Maendy.
Mae'r cwrs yn agored i holl blant 9 oed a hŷn Caerdydd sy'n gallu beicio ac sy'n berchen ar feic.
Cynhelir y cwrs am 4 bore neu brynhawn. Dysgwch fwy am y cyrsiau hyfforddiant beicio i blant.
Gwasanaethau Chwarae i Blant
Cynhelir sesiynau chwarae i blant ledled Caerdydd ar gyfer plant rhwng 5 a 14 oed.
Maent yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau difyr a diddorol i blant. Mae gweithgareddau'n amrywio o chwaraeon a gweithgareddau corfforol i gelf a chrefft a gemau sy'n herio'r ymennydd.
Mae gemau a gweithgareddau unigol a grŵp yn cael eu hyrwyddo. Dysgwch fwy am ein gwasanaethau chwarae.
Parciau a Gerddi
Ewch am antur dros y tirweddau agored prydferth neu ewch am dro hamddenol ar un o'r teithiau rydym wedi'u hargymell.
Gallwch hefyd:
- dewch o hyd i'ch parc lleol,
- ddysgu mwy am ddigwyddiadau'n y parc ar wefan Caerdydd Awyr Agored, neu
- weld beth sy'n digwydd ym Mharc Bute.
Castell Caerdydd
Camwch yn ôl mewn hanes a dewch yn farchog o'r oesoedd canol am y dydd! Mae Castell Caerdydd yn un o atyniadau treftadaeth mwyaf blaenllaw Cymru. Mae Castell Caerdydd wedi'i leoli yng nghanol prifddinas Cymru ac yng nghanol parciau prydferth. Mae waliau a thyrau hudol Castell Caerdydd yn cuddio 2,000 o flynyddoedd o hanes rhyfeddol.
Efallai y byddwch chi'n gallu cael mynediad am ddim gydag Allwedd i'r Castell.
Darganfyddwch beth sy' mlaen yng Nghastell Caerdydd.
Amgueddfa Stori Caerdydd
Dilynwch daith prifddinas Cymru a dysgu sut y mae Caerdydd wedi'i thrawsnewid o fod yn un o borthladdoedd prysuraf y byd i'r ddinas fywiog ac amrywiol ag ydyw heddiw.
Dysgwch bopeth am hanes Caerdydd drwy lygaid y rhai hynny a greodd y ddinas - ei phobl.
Ewch i Amgueddfa Stori Caerdydd.
Ysgol Farchogaeth Caerdydd
Mae Ysgol Farchogaeth Caerdydd, sydd wedi'i lleoli yng Nghaeau Pontcanna, yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw lefel o brofiad gyda gwersi preifat neu grŵp i farchogwyr anabl.
Gyda thua 40 o geffylau a merlod yn y ganolfan, mae digonedd o wynebau cyfeillgar i chi gwrdd â nhw.
Mwy o wybodaeth am Ysgol Farchogaeth Caerdydd.
Croeso Caerdydd
Fel yn unrhyw brifddinas, mae digwyddiadau mawr bob amser yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd.
Dysgwch fwy am ba ddigwyddiadau a gynhelir yng Nghaerdydd nawr yn Croeso Caerdydd.
Hybiau a Llyfrgelloedd
Nid dim ond sgil hanfodol yw darllen, mae'n hobi gwych ar gyfer unrhyw un o unrhyw oedran!
Ewch i un o'n Hybiau neu Lyfrgelloedd yng Nghaerdydd i weld pa ddigwyddiadau arbennig sydd 'mlaen yn ystod gwyliau.
Dewch o hyd i'ch Hyb neu lyfrgell leol.
Trafnidiaeth gyhoeddus
Ewch i wefan Bws Caerdydd i weld manylion eu tocyn diwrnod i'r teulu. Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth am y llwybrau i'n cyrchfannau mwyaf poblogaidd.
Gallwch ddod o hyd i orsafoedd trên sy'n agos at lwybrau cerdded drwy ddefnyddio map Trafnidiaeth Cymru.
