Rydym yn cefnogi pobl ifanc 11 i 25 oed â'u datblygiad cymdeithasol, addysgol ac emosiynol. Rydym yn cynnig mannau cymunedol diogel lle gall pobl ifanc:
- gymryd rhan mewn gweithgareddau,
- manteisio ar ddysgu anffurfiol,
- dod o hyd i wybodaeth ac arweiniad ar ystod eang o bynciau,
- siarad am faterion sy'n effeithio arnynt, a
- cael cefnogaeth gan Weithwyr Ieuenctid.
Rydym yn cefnogi pobl ifanc mewn grwpiau neu ar sail un i un, gan ddefnyddio dulliau hyblyg sy'n diwallu eu hanghenion.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hyn rydym yn ei gynnig ar wefan Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd.
Canolfannau ieuenctid a gwasanaethau ar-lein
Rydym yn rhedeg canolfannau ieuenctid a darpariaethau ieuenctid yn ystod nosweithiau, penwythnosau a gwyliau ysgol.
Gallwch ddod o hyd i'ch canolfan ieuenctid leol ar wefan Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd.
Gwasanaeth ieuenctid ar-lein
Gallwch hefyd ymuno â Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd ar-lein. Rydym yn cynnal clybiau ieuenctid ar-lein ar Discord ar gyfer pobl ifanc 13 oed a hŷn. Mae'r rhain yn fannau diogel lle gall pobl ifanc fod yn greadigol, cwrdd ag eraill a chael gwybod am gyfleoedd newydd.
Mae tri grŵp ar-lein:
- Siaradwyr Cymraeg
- Pobl ifanc 13 i 17 oed
- Pobl ifanc 16 i 25 oed
Cofrestrwch i ymuno â Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd ar-lein.
Cymryd rhan
Gallwch ddod yn aelod o Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd os ydych yn berson ifanc rhwng 11 a 25 oed ac yn dymuno cymryd rhan mewn unrhyw un o'r gwasanaethau rydym yn eu cynnig gan ganolfannau ieuenctid.
Gallwch gwblhau'r ffurflen ar-lein i ddod yn aelod o'r Gwasanaeth Ieuenctid.
