Nid yw pob ffordd yn addas ar gyfer rhai mathau o gerbydau.
Weithiau ni chaniateir cerbydau i yrru mewn rhai ardaloedd (maent wedi eu gwahardd). Mae hyn er mwyn sicrhau bod traffig yn llifo'n hawdd am resymau amgylcheddol neu ddiogelwch.
Adnabod yr arwyddion
Fel arfer, mae arwyddion gyda chylch coch yn rhai sy'n gwahardd. Weithiau ceir adegau pan fydd modd i gerbydau sydd fel arfer wedi cael eu gwahardd yrru ar hyd y ffyrdd hyn.
Gallwch weld gwybodaeth am fathau gwahanol o arwyddion, a rhai o'r eithriadau mwyaf cyffredin.
| Ystyr | Arwydd Traffig |
|---|---|
| Dim cerbydau modur |
|
| Dim cerbydau ac eithrio beiciau sy'n cael eu gwthio |
|
| Dim cerbydau nwyddau sy'n fwy na'r uchafswm pwysau gros a ddangosir ar yr arwydd |
|
| Dim cerbydau modur ac eithrio beiciau modur |
|
| Eithriad | Ystyr |
|---|---|
| "Ac eithrio ar gyfer Mynediad" | Ni chaniateir i chi yrru heibio'r arwydd oni bai bod angen mynediad i eiddo ar y ffordd honno. |
| "Ac eithrio mynediad i eiddo oddi ar y stryd" | Ni chaniateir i chi yrru heibio'r arwydd oni bai bod angen mynedfa ar gyfer cerbydau i adeilad oddi ar y stryd nad yw ond yn gallu ei ddefnyddio o'r ffordd honno (megis maes parcio oddi ar y stryd). |
| "Ac eithrio deiliaid trwyddedau" | Ni chaniateir i chi yrru heibio'r arwydd oni bai eich bod wedi cael trwydded gan y Cyngor ar gyfer y lleoliad hwnnw . |
| "Ac eithrio llwytho" | Ni chaniateir i chi yrru heibio'r arwydd oni bai bod angen i chi lwytho/dadlwytho nwyddau i eiddo ar y ffordd honno. |
| "Ac eithrio llwytho gan gerbydau nwyddau" | Ni chaniateir i chi yrru heibio'r arwydd oni bai bod angen i chi lwytho/dadlwytho nwyddau i eiddo ar y ffordd honno ac rydych yn gyrru cerbyd nwyddau. |
Awgrymiadau gorau er mwyn osgoi Hysbysiad Tâl Cosb (HTC)
Rydym yn cyhoeddi HTCau am fethu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r arwyddion ffyrdd hyn.
Er mwyn osgoi cael HTC, dylech wneud yn siŵr eich bod yn gwybod:
- pa fath o gerbyd rydych chi'n ei yrru? Bydd hyn yn eich helpu i ddeall pa arwyddion sy'n berthnasol i chi.
- ystyr y gwahanol fathau o eithriadau a allai fod yn bresennol, a gwirio a oes unrhyw un yn berthnasol.
