Gofalwr di-dâl yw rhywun nad yw'n cael ei dalu i ddarparu gofal i ffrind neu berthynas.
Gall bywydau gofalwyr di-dâl gael eu heffeithio wrth helpu person arall sydd â:
- salwch corfforol neu feddyliol,
- anabledd corfforol neu ddysgu,
- eiddilwch, neu
- yn camddefnyddio cyffuriau ac alcohol.
Nid yw llawer o bobl yn sylweddoli eu bod yn ofalwr di-dâl, gan nad oes diffiniad nodweddiadol.
Os ydych chi'n ofalwr di-dâl, gallech fod yn helpu gyda:
- gofal cyffredinol fel rhoi moddion, newid rhwymynnau, helpu gyda symudedd,
- tasgau domestig fel coginio, glanhau, golchi, smwddio, a siopa,
- cymorth emosiynol fel helpu gyda chyflyrau iechyd meddwl sy'n peri gofid neu sy'n peryglu bywyd
- gofal personol fel golchi, gwisgo, gofynion toiled
- tasgau eraill fel helpu gyda thasgau cartref, talu biliau, helpu gydag apwyntiadau meddygol.
Sut gallwn ni eich cefnogi chi
Gallwch gael cymorth gennym os yw'r person rydych yn gofalu amdano yn byw yng Nghaerdydd. Os nad ydynt yn byw yng Nghaerdydd, mae'n rhaid i chi gysylltu â'u hawdurdod lleol nhw.
Os ydych yn ofalwr di-dâl, gallwn roi cymorth i chi i'ch helpu i ofalu am eich iechyd a'ch lles eich hun. Byddwn yn siarad â chi i ddeall eich dyletswyddau fel y gallwn eich cyfeirio at y gefnogaeth a'r gwasanaethau cywir. Er enghraifft:
- cyngor a chymorth am ddim,
- cymorth sy'n canolbwyntio arnoch chi a'ch anghenion chi,
- cael gafael ar wasanaethau cymorth lleol, a
- deall eich hawliau.
Gallwch hefyd gael asesiad gofalwr i'ch helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnoch. Rhaid i chi fod dros 18 oed i gael asesiad gofalwr.
Gofalu am rywun sydd o dan 18 oed
Os ydych yn gofalu am rywun sydd o dan 18 oed, gallwch gael cymorth gan Porth Teuluoedd Caerdydd. Gallwch hefyd eu ffonio neu anfon e-bost atynt.
Ffôn: 03000 133 133
E-bost: [email protected]
Os ydych o dan 18 oed ac yn gofalu am rywun
Os ydych o dan 18 oed ac yn gofalu am rywun, gallwch ddarganfod mwy am ofalwyr ifanc.
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni os hoffech gael mwy o wybodaeth am gael cymorth a chefnogaeth.
Ffôn: 029 2023 4234
E-bost: [email protected]
