Rhagnodir gwerth ardrethol i bob eiddo busnes. Caiff y gwerth hwn ei asesu'n annibynnol gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio ac mae'n cynrychioli gwerth rhent yr eiddo ar y farchnad agored fel yr oedd ar 1 Ebrill 2021.
Caiff y bil ardrethi ei gyfrifo drwy luosi'r gwerth ardrethol gyda'r lluosydd ardrethi. Caiff y lluosydd ardrethi ei bennu gan Lywodraeth Cymru, a chaiff ei adolygu'n flynyddol. Y lluosydd ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023 i 2024 yw 0.535c.
Er enghraifft:
Gwerth Ardrethol £20,000 x Lluosydd 0.535 = Bil Ardrethi £10,700.
Rhydd hyn yr atebolrwydd gros ond gallech fod yn gymwys i rai gostyngiadau.
Gweld nodiadau esboniadol (PDF, 116 KB) sy'n esbonio rhai o'r termau y gellir eu defnyddio ar yr hysbysiad galw am dalu ardreth busnes ac yn y wybodaeth ategol.
I gael rhagor o wybodaeth neu gyngor mae croeso i chi gysylltu â ni.
029 2087 1491
